David Cameron
Bydd prifysgolion ledled y DU yn gorfod gweithredu i fynd i’r afael ag eithafiaeth ar eu campysau o dan gynlluniau newydd a gyhoeddodd Prif Weinidog y DU heddiw.
Bydd hyn yn “diogelu meddyliau ifanc sy’n hawdd i’w darbwyllo” yn ôl David Cameron.
Mae’r llywodraeth wedi beirniadu Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr am wrthwynebu’r strategaeth gwrth-radicaliaeth ac wedi galw arnynt i’w chefnogi.
‘Dim lle i syniadau radical’
Mae beirniaid y strategaeth wedi honni y bydd yn creu diwylliant o amheuaeth mewn sefydliadau addysg a gallai gyfyngu ar ryddid i lefaru.
Ond mae David Cameron wedi amddiffyn y strategaeth gan ddweud y bydd yn “sicrhau na fydd safbwyntiau a syniadau radical yn cael yr ocsigen sydd eu hangen arnyn nhw i ffynnu.”
Mae’r Uned Dadansoddi Eithafiaeth yn Whitehall wedi dweud bod o leiaf 70 o ddigwyddiadau oedd yn cynnwys siaradwyr casineb wedi cael eu cynnal ar gampysau dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae pryder hefyd gan swyddogion diogelwch am nifer y bobl ifanc sy’n cael eu radicaleiddio ac yn teithio i ymuno â jihadwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Syria.
‘Rhyddid i lefaru’
Yn ôl Sean Curran, Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, mae angen cydbwysedd wrth fynd i’r afael â’r strategaeth hon.
“Fel undeb myfyrwyr, rydym yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr leisio eu barn,” meddai wrth Golwg360.
“Yn amlwg, allwn ni ddim tynnu rhyddid i lefaru oddi ar fyfyrwyr ond ein rôl ni yw addysgu myfyrwyr am safbwyntiau radicalaidd a helpu myfyrwyr bregus.”
‘Pryderon’
Dywedodd Beth Button, llywydd UCM Cymru: “Creda UCM fod yna wir bryderon o ran yr effaith y bydd y Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch yn ei chael ar les myfyrwyr.
“Mae beirniadu a dadlau yn graidd i’r broses benderfynu. Felly buaswn yn annog y llywodraeth i wrando ac adlewyrchu ar y gwir bryderon yn sgil eu hagenda yn hytrach nag ymosod ar fudiadau am beidio â chytuno â’u hymagwedd.
“Gan nad yw undebau myfyrwyr yn gyrff cyhoeddus ac nid yw’r Ddeddf yn berthnasol iddynt gan hynny, mae’r ffaith bod y llywodraeth yn canolbwyntio gymaint ar ein gwaith yn peri dryswch. Mae UCM yn fudiad ymgyrchu felly mae ein gwrthwynebiad i’r agenda hwn – ar sail pryderon egwyddorol ac ymarferol, a basiwyd yn ein Cynhadledd Genedlaethol ddiweddaraf – yn ddilys ac yn addas.”