Carwyn Jones
Fe fydd uwchgynhadledd yn cael ei chynnal heddiw, a fydd yn trafod sut i gydlynu’r ymateb yng Nghymru i argyfwng y ffoaduriaid.
Bydd yn cael ei chynnal gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones, gydag awdurdodau lleol ac elusennau’n cymryd rhan.
Fe fyddan nhw’n trafod sut y gall Cymru chwarae rhan wrth geisio ail-gartrefu’r miloedd o bobl sydd wedi ffoi o Syria.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd 20,000 o ffoaduriaid o wersylloedd ger ffiniau Syria yn cael eu hail-gartrefu ym Mhrydain yn ystod y pedair blynedd a hanner nesaf.
Ni fydd y miloedd o bobl sydd eisoes wedi cyrraedd Ewrop yn cael lloches yn y DU, meddai’r Llywodraeth.
Ond mae nifer wedi dadlau nad yw hynny’n ddigon ac y dylai’r DU fod yn ceisio rhoi lloches i ragor o ffoaduriaid.
‘Bywydau yn y fantol’
Cyn yr uwchgynhadledd, dywedodd Carys Thomas, Pennaeth Oxfam Cymru: “Mae 22 o awdurdodau lleol Cymru wedi datgan eu hymrwymiad i wneud gymaint â phosib i gefnogi argyfwng y ffoaduriaid, yn dilyn llif o gydymdeimlad gan bobl Cymru.
“Mae’r addewid hwn i’w groesawu a nawr mae angen ei wireddu, gan na fydd nifer o’r bobl sy’n byw yn y gwersylloedd ffoaduriaid yn goroesi gaeaf arall.
“Yn ôl Dadansoddiad Cyfran Deg Oxfam, dylai Cymru fod yn ailgartrefu o leiaf 326 o ffoaduriaid o Syria cyn diwedd 2015. Ar hyn o bryd mae dros bedair miliwn o ffoaduriaid wedi eu cofrestru yn y gwledydd sy’n ffinio Syria – mwy na phoblogaeth Cymru gyfan.
“Rydym am i’r broses hon fod yn un gyflym gan fod bywydau yn y fantol.”
Y rhai fydd yn cymryd rhan
Fe fydd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths, a’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews yn bresennol yn y gynhadledd i drafod y mater gyda chynrychiolwyr o nifer o elusennau gan gynnwys:
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Partneriaeth Mudo Strategol Cymru
- Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
- Cyngor Ffoaduriaid Cymru
- Y Groes Goch
- Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
- Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro
‘Cynnig llety’
Ar ddechrau’r wythnos roedd AC y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Eluned Parrott wedi galw ar y rhai fydd yn mynychu’r uwchgynhadledd i ystyried sefydlu cronfa ddata o bobl sy’n barod i roi llety i’r ffoaduriaid.
“Rwy’n siŵr bod miloedd o bobl a fyddai’n fodlon cofrestru a chynnig ystafell neu fwy i ffoadur a’u teuluoedd. Mae pobl hefyd ag ail gartref sy’n barod i gynnig eu heiddo dros y misoedd nesaf,” meddai.
“Yr hyn sydd ar goll yw rhwydwaith a chynllun gweinyddu er mwyn cydlynu hyn. Mae Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i wneud hyn ac rwy’n galw arnynt i wneud hyn ar unwaith.”