Y difrod wedi'r daeagryn yn Chile
Mae o leiaf pump o bobl wedi’u lladd ar ôl i ddaeargryn nerthol daro Chile.
Roedd y daeargryn nos Fercher, a oedd yn mesur 8.3, i’w deimlo mewn llefydd ar draws De America.
Yn y brifddinas Santiago, roedd adeiladau wedi dechrau siglo gan achosi i filoedd o bobl ffoi o’u cartrefi.
Mae timau achub wedi bod yn gweithio drwy’r nos i asesu’r difrod mewn nifer o drefi arfordirol ar ôl i’r daeargryn achosi sawl tswnami bach, gan achosi llifogydd mewn mannau.