Ched Evans
Mae panel adolygu wedi trafod achos y pêl-droediwr Ched Evans wrth iddyn nhw ystyried a fydd e’n cael hawl i apelio yn erbyn ei ddedfryd o drais.
Cafodd Ched Evans ei garcharu am bum mlynedd yn 2012 ar ôl cael ei ganfod yn euog o dreisio dynes 19 oed mewn gwesty ger y Rhyl, ac fe gafodd ei ryddhau ar drwydded y llynedd hanner ffordd drwy’i ddedfryd.
Ond mae cyn bel-droediwr Sheffield United a Chymru wastad wedi mynnu ei fod yn ddieuog, a bod y ddynes wedi cydsynio i gael rhyw gydag ef.
Mae’r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol (CCRC) bellach yn edrych ar ei achos, er mwyn penderfynu a oes ganddo achos digon cryf i gynnal apêl yn erbyn ei ddedfryd.
Tri opsiwn
Mae gan y CCRC dri opsiwn wrth ddod i ddyfarniad – bod angen rhagor o ymchwil i’r achos; na ddylai achos Ched Evans gael ei ystyried ar gyfer apêl; neu y dylai’r achos gael ei gyfeirio at y Llys Apêl.
Mae Ched Evans, sydd bellach yn 26 oed, eisoes wedi methu mewn un ymgais yn 2012 i fynd a’i achos gerbron y Llys Apêl.
Ers cael ei ryddhau o’r carchar llynedd mae Ched Evans wedi ceisio ailddechrau ei yrfa bêl-droed, gan gynnal trafodaethau â’i gyn-glwb Sheffield United yn ogystal ag Oldham.
Ond fe benderfynodd y clybiau hynny i beidio â’i arwyddo yn dilyn pwysau gan aelodau o’r cyhoedd a bygythiad rhai noddwyr i dorri cysylltiad â’r clybiau.
Parhau i ystyried
Mewn datganiad fe ddywedodd CCRC: “Mae pwyllgor achos o dri chomisiynydd CCRC wedi cyfarfod heddiw i ystyried achos Ched Evans.
“Cafodd Mr Evans ei ganfod yn euog o dreisio ym mis Ebrill 2012. Fe gollodd apêl yn erbyn ei ddedfryd ym mis Tachwedd 2012. Cynigiodd gais am adolygiad i’r CCRC ym mis Gorffennaf 2014.
“Fe gyflwynwyd rhagor o dystiolaeth i’r Comisiwn gan gynrychiolwyr cyfreithiol Mr Evans ym mis Ionawr ac Ebrill 2015.”
Unwaith y bydd penderfyniad yn cael ei wneud gan y CCRC, fe allai gymryd dyddiau neu wythnosau iddyn nhw roi gwybod i Ched Evans ac eraill yn ymwneud â’r achos, gan gynnwys y dioddefwraig.