Leigh Halfpenny
Mae Leigh Halfpenny wedi dweud y gallai fod allan gydag anaf am hyd at wyth mis, ar ôl troi cymalau yn ei ben-glin yn erbyn yr Eidal wythnos diwethaf.

Mae’r chwaraewr eisoes wedi gorfod tynnu nôl o garfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd, sydd yn dechrau’r penwythnos yma.

Ond gan fod yr anaf yn un sydd yn cymryd rhwng chwech ac wyth mis i wella fel arfer, mae’n debygol y bydd cefnwr Toulon hefyd yn methu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Fe fydd Halfpenny yn cael llawdriniaeth ar ei ben-glin heddiw, ond fe gyfaddefodd ei fod yn gwybod yn syth wrth gael yr anaf y byddai’n wynebu cyfnod hir ar yr ystlys.

“Nes i glywed e’n torri a dw i jyst yn cofio bod ar y llawr mewn poen,” meddai’r cefnwr.

“Roeddwn i jyst yn meddwl: ‘Dyna fe. Dyna fy Nghwpan y Byd i drosto mae’n siŵr.’

“Roedd y staff meddygol oedd yno ar y cae ac yn yr ystafell feddygol wedyn yn wych gyda fi. Fe wnaethon nhw fy helpu i drwy’r boen ac ymlacio fi, roedden nhw’n wych.”