Jonathan Thomas
Mae Jonathan Thomas wedi dweud bod angen “mwy o addysg” am arwyddion o anafiadau i’r pen ar ôl gorfod ymddeol o rygbi yn dilyn diagnosis o epilepsi.

Fe enillodd Thomas, sydd yn 32 oed, 67 o gapiau dros Gymru rhwng 2003 a 2011 gan chwarae mewn dau Gwpan y Byd yn ogystal ag ennill y Gamp Lawn ddwywaith.

Mewn datganiad, dywedodd ei glwb Caerwrangon fod Thomas wedi cael diagnosis o epilepsi llynedd a’r gred yw ei fod oherwydd “sawl ergyd i’r pen sydd wedi arwain at rywfaint o anaf i’r ymennydd”.

Mae sgil effeithiau cyfergydion wedi cael eu trafod yn gyson yn y byd rygbi dros y flwyddyn ddiwethaf, gydag asgellwr Cymru George North yn un o’r chwaraewyr a gymrodd saib o’r gêm oherwydd sawl clec i’w ben.

Mwy o addysg

Mae World Rugby eisoes wedi cyflwyno canllawiau newydd ynglŷn â delio ag anafiadau i’r pen, ac ar drothwy Cwpan y Byd, dywedodd Jonathan Thomas y byddai’n hapus i gynnig cyngor i chwaraewyr eraill.

“Rydw i wedi dysgu cymaint dros y misoedd diwethaf am anafiadau pen, trawiadau ac epilepsi, ac fe fyddai’n grêt petawn i’n gallu helpu mewn rhyw ffordd,” meddai’r blaenasgellwr.

“Ar lefel elit y gêm dw i’n meddwl bod yr undebau ac adrannau meddygol y clybiau yn gwneud gwaith gwych ac yn deall tipyn, ond dw i dal yn meddwl mai’r chwaraewyr sydd angen mwy o addysg am yr arwyddion, a chael allan o’r meddylfryd o fynd yn ‘styc mewn’.

“Hoffwn bwysleisio fodd bynnag na fydden i’n annog unrhyw un i beidio â chwarae’r gêm sydd wedi rhoi cymaint i mi. Dydw i ddim yn difaru unrhyw beth wnes i yn fy ngyrfa rygbi, a fydden i ddim yn newid unrhyw beth.”

Cyngor meddygol

Dywedodd cyfarwyddwr perfformiad Caerwrangon Nick Johnston fod y clwb wedi ceisio gwneud popeth y gallan nhw i helpu Jonathan Thomas i barhau â’i yrfa, ond bod y cyngor meddygol wedi dweud y byddai’n well rhoi’r gorau iddi.

Ychwanegodd Thomas ei hun y byddai’n hoffi parhau i weithio o fewn y byd rygbi yn ogystal â gwneud gwaith elusennol yn ymwneud ag anafiadau pen.

“Chi’n cyrraedd pwynt pan chi’n sylwi bod rhaid gwrando ar y cyngor meddygol a gwneud beth sydd orau i’ch iechyd,” cyfaddefodd y chwaraewr.

“Mae sawl gwahanol fath o epilepsi, ac yn ffodus dw i’n dioddef o ffurf llai difrifol na rhai. Ond yn amlwg, roedd yn rhy anodd i mi barhau fel athletwr proffesiynol.”