Mae cricedwyr a swyddogion yng Nghymru wedi cael eu gwobrwyo yn ystod noson flynyddol arbennig yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd.
Mae’r Gwobrau Gwasanaeth Rhagorol i Griced yn cydnabod cyfraniad gwirfoddolwyr i’r gêm ar lawr gwlad yng Nghymru.
Dywedodd Prif Weithredwr Criced Cymru, Peter Hybart: “Ni fyddai criced yn bodoli o gwbl heb y gwirfoddolwyr yn y clybiau, cynghreiriau, byrddau, a’r gymuned ehangach.
“Dim ond codi cwr y llen ar y maes gwirfoddoli a wnawn ni drwy wobrwyo’r unigolion, ac mewn un achos, efeilliaid a enillodd OSCAs NatWest eleni.
“Mae criced yng Nghymru’n ffodus iawn i gael pobl mor ymroddgar sy’n rhoi cymaint o’u hamser, egni a sgiliau i’r gêm.”
Bydd yr holl enillwyr yn cynrychioli Criced Cymru yn OSCAs Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) yn Lord’s ar Hydref 12.
Yr enillwyr
Jonathan Finn, Cimla (Cadw’r Gêm yn Fyw)
Bu’n rhaid iddo roi’r gorau i chwarae criced yn dilyn anaf difrifol, ac fe ddaeth yn gadeirydd ieuengaf erioed Clwb Criced Cimla. Mae’r clwb wedi wynebu trafferthion ariannol yn sgil toriadau y llywodraeth leol. O dan ei arweiniad, mae cyfleusterau’r clwb a’u llain wedi gwella’n sylweddol. Mae’n gweithredu fel rheolwr a dewisydd y tîm a’r tirmon, yn ogystal â chroesawu ymwelwyr i’r clwb.
Brinley John, Llangennech (Cynghreiriau)
Bellach yn 86 oed, fe gafodd ei benodi’n Drysorydd Anrhydeddus Clwb Criced Llangennech yn 1973 pan gafodd pwyllgor a chynghrair eu sefydlu am y tro cyntaf. Roedd yn hyfforddwr, trefnydd a dyfarnwr ac ar ôl rhoi’r gorau i’r swyddi hynny, fe barhaodd fel trysorydd y Gynghrair Iau.
Roy Emmott, Casnewydd (NatWest CricketForce)
Mae’n un o brif arweinwyr rhaglen gwella lleiniau menter NatWest CricketForce Clwb Criced Newport Fugitives yng Nghasnewydd. O dan ei arweiniad, mae’r clwb wedi magu perthynas gyda chyflenwyr lleol sy’n darparu defnyddiau a nawdd, ac fe ddenodd gryn dipyn o sylw gan y cyfryngau yn sgil ei waith. Mae troseddwyr ifainc lleol yn cymryd rhan yn y rhaglen yn y gobaith o’u denu i ffwrdd o’u cefndiroedd cythryblus. Fe fu’n gyfrifol am sefydlu cawodydd newydd ac ailwampio cyfleusterau.
Mike a Dave Knight, Casnewydd (Curiad Calon y Clwb)
Mae’r efeilliaid unfath wedi bod yn rhan bwysig o’r clwb ers 40 o flynyddoedd, gan roi o’u hamser i ddatblygu cricedwyr iau. Roedden nhw ynghlwm wrth ddatblygu’r adran iau, gan ennill gwobr Clwb y Flwyddyn ar draws y DU yn 1991. O ganlyniad i’w gwaith, mae timau o bob oedran yn y clwb wedi ennill llu o wobrau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Maen nhw’n gyfrifol am hyfforddi, gweinyddu, paratoi’r lleiniau, rheoli’r wefan, casglu nawdd, codi arian, gwerthu dillad a rheoli prosiectau.
Derek Rees, Dyfnant (Cyflawniad Oes)
Wedi iddo ymddeol o chwarae i Glwb Criced y Mwmbwls, daeth yn ddyfarnwr gyda Chymdeithas Criced De Cymru. Fe fu’n aelod o Gymdeithas y Dyfarnwyr a’r Sgorwyr Criced, ac wedyn Cymdeithas Swyddogion Criced yr ECB fel hyfforddwr. Roedd yn aelod gwreiddiol o Brif Gynghrair De Cymru. Daeth yn gadeirydd Cymdeithas Criced De Cymru yn ddiweddarach. Mae e bellach yn Swyddog Perfformiad Sirol canghennau De Orllewin Cymru o Gymdeithas Swyddogion Criced yr ECB. Mae’n ddyfarnwr o hyd.
Maurice Leyland, Penfro (Cyflawniad Oes)
Fe fu’n aelod o Glwb Criced Doc Penfro ers hanner canrif, gan ddechrau drwy baratoi’r tir ar gyfer adeiladu prif adeilad y clwb, ac fe ddaeth yn gapten ar y tîm gan ennill Cwpan Alec Colley yn 1971. Fe fu’n drysorydd y clwb ers 1969 ac fe ddaeth yn dirmon yn ddiweddarach. Sefydlodd gystadleuaeth tafarndai chwech bob ochr yn 1977, gan godi dros £20,000 ar hyd y blynyddoedd. Fel tirmon, mae e wedi paratoi lleiniau ar gyfer timau ysgolion lleol a chlybiau eraill yn yr ardal.