Eli Walker
Mae’r blaenasgellwr Ross Moriarty wedi cael ei alw i garfan Cymru yn dilyn anaf i’r asgellwr Eli Walker sydd yn golygu y bydd yn methu Cwpan Rygbi’r Byd.
Cafodd Walker ei ychwanegu i’r garfan yr wythnos diwethaf yn dilyn anaf Leigh Halfpenny yn erbyn yr Eidal.
Ond fydd e nawr ddim yn cael cyfle i ychwanegu at yr un cap sydd ganddo yn ystod y twrnament, a hynny oherwydd anaf i linyn y gâr.
Bydd Moriarty yn ychwanegu at opsiynau’r hyfforddwr Warren Gatland yn y rheng ôl sydd eisoes yn cynnwys Sam Warburton, Dan Lydiate, Taulupe Faletau, Justin Tipuric a James King.
Ond mae anaf Walker yn golygu mai George North, Alex Cuthbert a Hallam Amos yw’r unig asgellwyr yn y garfan, er bod y cefnwyr Liam Williams a Matthew Morgan hefyd yn gallu chwarae yno.
Bydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch yng Nghwpan y Byd y penwythnos yma wrth iddyn nhw herio Uruguay yng Nghaerdydd dydd Sul.
Fe fyddan nhw hefyd yn wynebu Lloegr, Fiji ac Awstralia wrth iddyn nhw geisio dianc o’r grŵp mwyaf heriol yn y gystadleuaeth.