Mae astudiaeth newydd yn dangos fod disgyblion ysgol yng Nghymru yn estyn am eu ffonau symudol yn ystod y nos – a’u bod nhw’n teimlo’n flinedig iawn y diwrnod wedyn.

Dengys astudiaeth Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd fod un o bob pump o blant yn deffro yn ystod y nos i daro golwg ar wefannau tebyg i Facebook a Twitter.

Gwnaed yr ymchwil yn sgil dadl ddiweddar ynglŷn â’r posibilrwydd y dylai ysgolion ddechrau’n hwyrach am fod cymaint o ddisgyblion yn dioddef o ddiffyg cwsg.

Blino “bron bob amser”

Fe wnaeth ymchwilwyr WISERD ofyn i 848 o ddisgyblion ysgol yng Nghymru pa mor aml oedden nhw’n deffro yn ystod y nos i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.

Fe wnaeth 22% o ddisgyblion blwyddyn 8 a 23% o ddisgyblion blwyddyn 10 ateb drwy ddweud eu bod.

Yn sgil hyn, fe wnaeth mwy na hanner o’r plant ddweud eu bod wedi blino “bron bob amser” yng ngwersi’r ysgol y diwrnod wedyn.

Mae’r astudiaeth hefyd yn dangos fod mwy na chwarter o ddisgyblion blwyddyn 10 yn mynd i gysgu ar ôl hanner nos – er bod ganddyn nhw ysgol y diwrnod wedyn.

‘Patrwm cysgu’

Dywedodd Dr Kimberley Horton o WISERD bod angen i rieni annog eu plant i beidio â defnyddio’r gwefannau cymdeithasol yn ystod y nos.

Ychwanegodd na fyddai “datblygu patrwm cysgu rheolaidd na chwaith ymestyn yr oriau o gwsg” yn gwneud unrhyw wahaniaeth i’r effaith y mae gwirio’r cyfryngau cymdeithasol yn ystod y nos yn ei adael ar y plentyn.

Roedd yr astudiaeth hefyd yn awgrymu y dylid cynorthwyo pobol ifanc i fagu elfen o drefn foreol, a byddai hynny’n eu helpu i “ganolbwyntio mwy a mwynhau’r ysgol”.