Andre Ayew (chwith) yn dathlu un o'i goliau dros Abertawe (llun: Nick Potts/PA)
Mae ymosodwr Abertawe Andre Ayew wedi ennill gwobr Chwaraewr y Mis yn Uwch Gynghrair Lloegr, yn dilyn dechrau gwych i dymor yr Elyrch.
Mae tîm Garry Monk yn bedwerydd yn y gynghrair ar hyn o bryd ar ôl pedair gêm, ar ôl ennill dwy a chael dwy gêm gyfartal.
Ac mae llawer o’r diolch hwnnw i Ayew, sydd wedi rhwydo tair gôl eisoes i’w glwb newydd gan gynnwys un yn erbyn Manchester United yn eu buddugoliaeth ddiwethaf.
Setlo’n sydyn
Fe arwyddodd yr ymosodwr i Abertawe am ddim dros yr haf wedi i’w gytundeb ym Marseille ddod i ben.
Ac mae’r gŵr o Ghana eisoes wedi dod yn ffefryn ymysg cefnogwyr yr Elyrch am ei berfformiadau a’i bartneriaeth ymosodol gyda Bafetimbi Gomis.
Roedd Gomis hefyd wedi cael ei enwebu am wobr chwaraewr y mis ar gyfer mis Awst, a Garry Monk yn un o’r rhai oedd ar restr fer rheolwr y mis.
Manuel Pellegrini o Man City gipiodd y wobr honno, a hynny am arwain ei dîm i bedair buddugoliaeth allan o bedair ar ddechrau’r tymor.