Jonathan Williams
Mae chwaraewr canol cae Crystal Palace Jonathan Williams wedi symud i Nottingham Forest ar fenthyg tan fis Ionawr.

Dyw’r ymosodwr chwim ddim wedi chwarae’n gyson ers bron i flwyddyn oherwydd anafiadau, ond mae’r chwaraewr 21 oed nawr yn mynnu fod hynny tu cefn iddo a’i fod yn barod am bennod newydd yn ei yrfa.

Roedd Joniesta, fel mae’n cael ei alw gan gefnogwyr Palace, yn aelod cyson o garfan Cymru cyn ei anafiadau llynedd ac fe chwaraeodd ei gêm ddiwethaf dros y tîm cenedlaethol yn erbyn Bosnia llynedd.

Mae ganddo saith cap dros Gymru, ac fe fydd yn gobeithio sicrhau lle yn y garfan unwaith eto os yw’r tîm yn llwyddo i sicrhau eu lle yn Ewro 2016 yr haf nesaf.

“Dw i’n gyffrous i ddod i Forest achos mae’n gyfle i mi ddangos i bobl yn y byd pêl-droed beth allai wneud eto,” meddai Jonny Williams wrth drafod y trosglwyddiad.