Owain Doull
Mae Owain Doull bellach yn arwain y ras bwyntiau ar Daith Prydain yn dilyn pumed cymal y ras seiclo rhwng Prudhoe i Hartside dydd Iau.

Bellach mae gan y Cymro sydd yn beicio dros Team Wiggins 49 pwynt yn y ras, naw yn fwy na Juan Jose Lobato Del Valle o Movistar ac Edvald Boasson Hagen o MTN Qhubeka.

Mae Doull hefyd wedi codi i bumed yn y dosbarthiad cyffredinol mae Doull, 37 eiliad y tu ôl i Boasson Hagen sydd yn gyntaf.

Wouter Poels sydd yn ail, gyda Rasmus Guldhammer yn drydydd a Benat Intxausti Elorriaga yn bedwerydd.

Fe fydd chweched cymal y ras fory yn teithio ar draws canolbarth Lloegr o Stoke i Nottingham, gyda’r daith yn gorffen dydd Sul gyda’r wythfed cymal yn Llundain.