Bowliwr cyflym llaw chwith Morgannwg, Graham Wagg yw’r ail chwaraewr y tymor hwn i sgorio 800 o rediadau dosbarth cyntaf i’r sir.

Cyrhaeddodd Wagg y garreg filltir ar ail ddiwrnod gornest Bencampwriaeth Morgannwg yn erbyn Swydd Gaint yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd.

Mae gorchestion Wagg gyda’r bat y tymor hwn yn tynnu sylw at berfformiad gwaeth na’r disgwyl gan y rhan fwyaf o fatwyr cydnabyddedig Morgannwg y tymor hwn.

Y capten Jacques Rudolph, oedd y cyntaf i gyrraedd y garreg filltir, yw un o’r ychydig eithriadau, ac mae e bellach wedi sgorio 841 o rediadau.

Roedd Wagg allan am 58 wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 207 yn eu batiad cyntaf, gan roi blaenoriaeth batiad cyntaf o 102 i’r ymwelwyr.

Mae cyfanswm rhediadau Wagg ar gyfer y tymor yn cynnwys 200 yn erbyn Swydd Surrey yn Guildford a 94 yn erbyn Swydd Gaerlŷr yng Nghaerdydd ym mis Mehefin.

Mae Wagg wedi taro un canred dwbl a phump hanner canred y tymor hwn.

Yn ystod ei fatiad o 200 yn erbyn Swydd Surrey, fe dorrodd Wagg y record am y nifer fwyaf o ergydion am chwech (11) yn ystod batiad yn y Bencampwriaeth i Forgannwg.