Perry Smith
Mae Heddlu Gwent wedi apelio o’r newydd am wybodaeth yn dilyn diflaniad dyn 22 oed o ysbyty seiciatryddol yn Y Fenni.
Doedd Perry Smith ddim wedi dychwelyd i Ysbyty Llanarth Court ar ôl cael ei ryddhau i gael mynd i ganol tref Y Fenni ar Awst 21.
Cafodd ei weld ddiwethaf yn cerdded o’r orsaf fysus i gyfeiriad y dref am oddeutu 10.30 y bore ar Awst 21.
Mae ganddo groen gwyn ac mae ei ben wedi’i eillio. Pan ddiflannodd, roedd yn gwisgo cot law werdd, crys T brown Krishna, trowsus du ac esgidiau du a gwyn. Roedd yn cario sach werdd cuddliw ar ei gefn.
Mae ganddo gysylltiadau ag ardaloedd Dyfnaint a Chernyw.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth neu unrhyw un sy’n ei weld gysylltu â’r heddlu ar 101.