Alec Warburton - ar goll ers diwedd Gorffennaf
Fe allai dyn y mae Heddlu De Cymru’n chwilio amdano mewn cysylltiad gyda llofruddiaeth yn ardal Abertawe, fod wedi gwneud cais am lety neu waith yng Ngogledd Iwerddon.
Mae ditectifs wedi bod yn ceisio dod o hyd i David Ellis, 40, ers i’w landlord ddiflannu y mis diwetha’.
Mae swyddogion Heddlu De Cymru yn credu i Alec Warburton, 59, gael ei ladd, a dyna pam maen nhw wedi bod yn chwilio am ei denant, David Ellis, ers hynny.
“Rydyn ni wedi bod yn dilyn sawl trywydd yng Ngogledd Iwerddon,” meddai’r Ditectif Uwch Arolygydd Paul Hurley. “Mae yna nifer o bobol wedi ei weld, ers iddo gyrraedd Belffast.”
Fe deithiodd David Ellis ar fferi o Benbedw i Belffast ar Awst 6. Fe gafodd ei weld yn dod oddi ar y bad am 6.58yb yn gwisgo crys sgwarog, jins a chap, ac yn cario bag a rycsac. Mae’r heddlu’n credu iddo wedyn gymryd tacsi o’r bae i orsaf Great Victoria Street yng nghanol dinas Belffast.
Does neb wedi gweld Alec Warburton ers diwedd Gorffennaf, ac fe gafodd ei riportio ar goll o’i gartre’ yn Ffordd Vivian, Sgeti, ar Awst 2. Mae ditectifs yn cynnal ymchwiliad llofruddiaeth.