Mae tair nyrs wedi’u tynnu oddi ar restr eu proffesiwn, wedi iddyn nhw fethu yn eu dyletswydd i roi’r gofal angenrheidiol i bobol mewn cartre’ nyrsio yng Nghaerffili.
Roedd y nyrsus yn arfer gweithio yng Nghartref Nyrsio Brithdir ger Bargoed, un o’r chwe cartre’ oedd yn cael eu harchwilio fel rhan o Ymgyrch Jasmine gan Heddlu Gwent, wedi marwolaeth 63 o bobol.
Fe glywodd panel Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth fod gweithredoedd pump o nyrsus yn y cartre’ wedi cyfrannu at farwolaeth rhai o’r preswylwyr bregus.
Mae Tembakazi Moyanna, Daphne Richards a Rachel Tanta wedi’u tynnu oddi ar restr nyrsus. Mae rheolwraig y cartre’ ar y pryd, Susan Greening, wedi derbyn rhybudd sydd mewn grym am bedair blynedd; ac mae’r nyrs, Beverley Moch, wedi derbyn gorchymyn i’w gwahardd.
Mae gan Gartref Nyrsio Brithdir reolwyr newydd bellach.