Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies wedi cyhuddo Leanne Wood o “ragrith” am iddi ddweud na fyddai Plaid Cymru’n fodlon gweithio â’r Torïaid.

Yn ôl y polau piniwn diweddaraf does dim disgwyl i Lafur ennill mwyafrif yn y Cynulliad ar ôl yr etholiadau nesaf ym mis Mai 2016, gan olygu posibilrwydd arall o glymbleidio.

Ond mae Leanne Wood eisoes wedi awgrymu na fydd ei phlaid hi’n fodlon cydweithio â’r Ceidwadwyr i ffurfio llywodraeth ym Mae Caerdydd ar ôl yr etholiad.

Ac yn ôl arweinydd Ceidwadwyr Cymru, mae hynny’n arwydd o wrthddweud yn safbwynt Plaid Cymru.

“Mae elfen o ragrith yn fan hyn,” meddai Andrew RT Davies mewn sylwadau wrth BBC Wales.

“Mewn un gwynt maen nhw’n dweud bod angen cael gwared ar y Blaid Lafur ac yn y nesaf maen nhw’n dweud mai eu cynnig nhw ym mis Mai’r flwyddyn nesaf fydd ‘pleidleisiwch drosom ni ac fe wnawn ni gynnal Llafur Cymru’.”

Enfys?

Yn dilyn etholiadau’r Cynulliad yn 2007, pan fethodd Llafur ag ennill mwyafrif, cynhaliwyd trafodaethau rhwng Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol ynglŷn â sefydlu ‘clymblaid enfys’.

Yn y diwedd fe aeth Plaid Cymru i mewn i glymblaid â Llafur i redeg Llywodraeth Cymru, ond mae Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb eisoes wedi awgrymu y byddai’n awyddus i weld trafodaeth am glymblaid enfys yn atgyfodi ar ôl 2016.

Mae Andrew RT Davies wedi dweud ei fod yn fodlon cadw’i holl opsiynau’n agored wrth ystyried pwy i gydweithio â nhw ar ôl yr etholiad nesaf.

Ond fe allai unrhyw ymgais i ffurfio clymblaid enfys gael ei chymhlethu gan bresenoldeb UKIP yn y Cynulliad – mae disgwyl iddyn nhw ennill o leiaf llond llaw o seddi ym Mae Caerdydd yn ôl y polau diweddaraf.