Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi dweud y bydd colli swyddi gyda chwmni dur Tata Steel yn Llanwern yn “ergyd enfawr” i ardal Casnewydd.

Dywedodd  Pennaeth Materion Allanol y Ffederasiwn, Iestyn Davies, hefyd y bydd hi’n anodd iawn dod o hyd i swyddi i gymaint o bobl a bod cau gweithfeydd dur mawr wedi “dinistrio cymunedau” yn y gorffennol.

Daeth ei sylwadau yn dilyn cyhoeddiad Tata Steel ei fod am gael gwared a 250 o swyddi ar eu safle yn Llanwern ger Casnewydd.

Dywedodd y cwmni wrth weithwyr fod yn rhaid iddyn nhw “leihau costau a chanolbwyntio ar gynhyrchu cynhyrchion mwy gwerthfawr.”

Ychwanegodd Iestyn Davies ei fod yn bryderus nad yw Llywodraeth Cymru yn helpu’r sefyllfa drwy “ganolbwyntio gormod ar ddenu cwmnïau rhyngwladol i Gymru ar draul cynlluniau i gefnogi cwmnïau lleol.”

‘Ergyd enfawr’

Meddai Iestyn Davies o Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru: “Mae colli 250 o swyddi yn ergyd enfawr i ardal Casnewydd ac rydyn ni’n deall bod hwn yn gyfnod anodd i bob un o’r gweithwyr sydd wedi cael eu heffeithio.

“Rydym yn gobeithio y bydd cyfleoedd i rai o’r gweithwyr medrus sy’n colli eu bywoliaeth i ddod o hyd i waith ymhlith cyflogwyr llai yn ardal Casnewydd. Fodd bynnag, bydd hi’n anodd iawn dod o hyd i swyddi i  gymaint o bobl.

“Rydym wedi gweld cau gweithfeydd dur mawr yn dinistrio cymunedau yn y gorffennol – a does dim rhaid edrych yn bellach na Glynebwy.

“Mae angen i ni sicrhau ein bod yn creu cyflogaeth wydn yn ein cymunedau ac rydyn ni’n dod yn gynyddol bryderus fod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio gormod ar ddenu cwmnïau rhyngwladol byd-eang i Gymru ar draul cynlluniau i gefnogi cwmnïau lleol llai sy’n seiliedig yn y cymunedau.”

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fod y newyddion yn “dorcalonnus i Gasnewydd a’r economi yng Nghymru yn gyffredinol”.