Bydd streic gan weithwyr cwmni First Great Western yn effeithio ar wasanaethau trên rhwng Llundain a De Cymru dros ŵyl y banc y penwythnos hwn.
Mae aelodau o’r undeb Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) sy’n gweithio i First Great Western (FGW) yn bwriadu cynnal cyfnod o weithredu diwydiannol am dri diwrnod.
Daw hyn yn dilyn anghydfod rhwng y cwmni ac aelodau’r undeb wrth gyflwyno trenau newydd o gyflymder uchel.
Bydd y gweithwyr (ac eithrio staff cynnal a chadw) yn mynd ar streic rhwng 00.01 ddydd Sadwrn a 23.59 ddydd Llun.
Bydd hyn yn effeithio ar wasanaethau trenau First Great Western rhwng Llundain a De Cymru a’r De Orllewin.
Y ddadl
Mae aelodau o’r undeb RMT wedi bod yn dadlau â’r cwmni yn sgil newid y trenau presennol am drenau newydd cyflym.
Maen nhw’n honni y byddai cyflwyno’r trenau newydd yn effeithio ar ddiogelwch, swyddi ac ar y gwasanaeth arlwyo.
Dywedodd llefarydd ar ran First Great Western fod y cwmni wedi cynnal trafodaethau “cadarnhaol” gyda’r undeb ddoe.
Yn ystod y trafodaethau, fe wnaethon nhw gadarnhau nad oedd eu “cynlluniau’n cynnwys rhedeg trenau newydd heb reolwr cymwys” a’u bod nhw’n bwriadu “penodi o leiaf 100 o staff newydd i’r trenau”.
Fe ddywedodd y cwmni hefyd y byddai’r trenau cyflym yn darparu mwy o seddau a theithiau cyflymach a mwy cyson ar gyfer teithwyr.
Mae’r cwmni wedi llythyru at undeb yr RMT, ac maen nhw’n aros am ymateb ffurfiol.
Fe wnaeth Claire Perry, y gweinidog dros drenau a rheilffyrdd, ymateb drwy ddweud fod y cynllun yn cynnwys “mwy o drenau, mwy o seddau a theithiau cyflymach i gwsmeriaid, felly mae’n hurt fod penaethiaid yr undeb wedi galw am weithredu diwydiannol”.
“Rwy am weld nhw’n dod at eu coed, a’r streic yn cael ei ohirio mor fuan â phosib”, ychwanegodd.