Amgueddfa Cymru
Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates wedi croesawu adroddiad annibynnol sydd wedi’i gyhoeddi ar ddyfodol amgueddfeydd yng Nghymru.

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu i archwilio effaith toriadau ariannol a newidiadau yn nhrefniant awdurdodau lleol ar amgueddfeydd.

Dr Haydn E Edwards, Dirprwy Lywydd Amgueddfa Cymru oedd wedi arwain y panel wrth iddyn nhw fynd ati i lunio’r adroddiad.

‘Cyllidebau’n crebachu’ 

Dywedodd Ken Skates: “Mae amgueddfeydd lleol yn rhan bwysig o gymunedau iach a bywiog.

“Maen nhw’n annog cyfranogiad byw mewn diwylliant, yn amddiffyn ein treftadaeth, yn darparu cyfleoedd addysg ac yn cyfrannu at ein diwydiant twristiaeth.

“Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf yn dibynnu’n helaeth ar arian gan awdurdodau lleol, sy’n eu peryglu nhw’n arbennig yn ystod cyfnodau pan fo cyllidebau’n crebachu.”

‘Angen addasu’

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, David Anderson:  “Wrth ddiffinio rôl amgueddfeydd lleol a rhanbarthol a’u heffaith bositif ar gymunedau yng Nghymru, y mae hefyd yn tynnu sylw at sut mae angen i’r sector – sy’n cynnwys Amgueddfa Cymru – addasu er mwyn dod yn fwy gwydn yn ystod adegau o anhawster economaidd.”

Ychwanegodd fod yr adroddiad yn “gyfle i ddatblygu modelau newydd ar gyfer cyflwyno gwasanaethau amgueddfeydd a brwydro gyda’n gilydd yn erbyn effaith toriadau San Steffan”.

Argymhellion

Yn yr adroddiad, mae’r panel yn gwneud 10 o argymhellion, gan gynnwys sefydlu tri bwrdd rhanbarthol i arwain amgueddfeydd, a sefydlu Cyngor Amgueddfeydd cenedlaethol i gynnig arweiniad ar lefel genedlaethol.

Mae’r argymhellion eraill yn cynnwys sefydlu Casgliadau Cymru i warchod casgliadau ar draws yr holl amgueddfeydd ac i sicrhau nad oes rhaid i amgueddfeydd dalu cyfraddau annomestig cenedlaethol.

Bu’r comisiwn hefyd yn ystyried a ddylid codi tâl mynediad ar gyfer amgueddfeydd.

Dywedodd Ken Skates y byddai’n ymateb i argymhellion yr adroddiad maes o law.