Llys y Goron Abertawe
Mae dyn o Abertawe a oedd wedi honni ei fod mewn coma er mwyn osgoi ymddangos yn y llys, wedi cyfaddef gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Roedd Alan Knight, 48, wedi honni ei fod yn rhy sâl i sefyll ei brawf ar ôl dwyn £41,000 drwy dwyll gan ddyn 86 oed, a oedd yn dioddef o ddementia.
Roedd Knight a’i wraig Helen o Sgeti, wedi honni ei fod mewn coma ar ôl anafu ei wddf yn ddifrifol mewn damwain gyda drws y garej.
Ond cafodd ei weld ar gamerâu CCTV yn siopa gyda’i deulu.
Fe blediodd Knight yn euog i 19 cyhuddiad o ddwyn a thwyll a chafodd ei garcharu ym mis Tachwedd y llynedd.
Yn Llys y Goron Abertawe heddiw roedd Knight a’i wraig wedi pledio’n euog i gyhuddiad o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder rhwng 2012 a 2014.
Clywodd y llys bod yr heddlu wedi ceisio cael Knight i ymddangos gerbron llys o leiaf ddwywaith ond ei fod wedi honni ei fod yn rhy sâl i sefyll ei brawf am ddwyn £41,570 gan ei gymydog Ivor Richards rhwng 2008 a 2009.
Roedd wedi bwriadu gwadu’r cyhuddiadau ond fe newidiodd ei ble ar ôl i’r heddlu weld lluniau CCTV ohono yn siopa. Cafodd ei ddedfrydu am bedair blynedd a hanner am ddwyn gan ei gymydog.
Dywedodd y barnwr y byddai’n delio a’r cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder ar wahân.
Heddiw fe blediodd Knight yn euog i’r cyhuddiad o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder drwy gyswllt fideo o garchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Roedd Helen Knight hefyd wedi pledio’n euog i’r cyhuddiad.
Fe fydd Knight a’i wraig yn cael eu dedfrydu fis nesaf.