Christopher Mitchell
Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth i ddod o hyd i ddyn maen nhw’n awyddus i’w holi mewn cysylltiad ag ymosodiad ym Mhenarth ger Caerdydd.

Mae’r heddlu eisiau holi Christopher Mitchell, 27, o’r Barri mewn cysylltiad ag ymosodiad yn y dref ar ddydd Llun, Awst 17.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am Christopher Mitchell gysylltu gyda Heddlu De Cymru drwy ffonio 101 a dyfynnu’r cyfeirnod 302265 neu ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.