Isobelle Charlotte Woodall
Mae teulu dynes o’r Trallwng a fu farw yn dilyn damwain ffordd yn Wigan wedi talu teyrnged iddi.

Bu farw Isobelle Charlotte Woodall, 19, o Belan, Y Trallwng, yn y gwrthdrawiad ar 16 Awst. Roedd hi’n teithio mewn Peugeot 206 ar y pryd pan fu’r car mewn gwrthdrawiad â Ford Focus.

Meddai Heddlu Manceinion ei bod hi wedi marw yn y fan a’r lle o anafiadau difrifol i’w phen. Dywedodd ei theulu mewn datganiad bod Isobelle Woodall yn “ferch hapus, gariadus ac annwyl a oedd yn darganfod ei lle yn y byd.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad gysylltu â’r heddlu drwy alw 0161 856 4742.