Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi lansio ymgynghoriad chwe wythnos heddiw a allai olygu bod gwasanaethau mamolaeth yn cael eu tynnu o ysbyty yn y gogledd.
Bydd yr ymgynghoriad yn trafod cynlluniau i leihau gwasanaethau yn un o dri o ysbytai’r ardal sef Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Maelor Wrecsam.
Bydd saith o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws y gogledd ym mis Medi i drafod yr opsiynau gyda’r cyhoedd.
Bu’n rhaid i’r Bwrdd Iechyd ail-feddwl eu cynllun gwreiddiol i israddio’r uned famolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan dros dro, oherwydd gwrthwynebiad chwyrn i’r cynllun.
‘Ysgytwol’
Meddai Prif Weithredwr dros dro’r Bwrdd Iechyd, Simon Dean: “Fe wnaeth y Bwrdd gydnabod y bydd unrhyw bosibilrwydd o newid gwasanaethau’n ysgytwol, yn enwedig pan fydd y cynigion hyn ar gyfer newidiadau’n ymwneud â gwasanaethau mamolaeth.
“Mae ein uwch feddygon a’n nyrsys ein hunain wedi codi pryderon gwirioneddol, yn yr un modd ag uwch arweinwyr clinigol ledled y Deyrnas Unedig, ynghylch diogelwch y gwasanaeth mamolaeth ar ei ffurf bresennol.”
Dywedodd Simon Dean mai prinder staff meddygol oedd wedi achosi’r anawsterau ac y byddai’r newidiadau yn rhai dros dro nes bod modd “sefydlogi’r gwasanaeth”.
Yr opsiynau yw:
1) Dim newid.
2) Cael gwared â’r gwasanaeth dros dro yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ynghyd â gwasanaeth brys a gynaecoleg i gleifion mewnol. Byddai gofal newydd enedigol hefyd yn cael ei leihau ar y safle.
3) Byddai’r opsiwn hwn yn gweld Ysbyty Gwynedd dros dro yn colli ei gwasanaeth mamolaeth dan arweiniad meddygon.
4) Israddio gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad meddyg yn Ysbyty Glan Clwyd a lleihau gofal newydd enedigol dros dro yno – sef y dewis gwreiddiol a’r opsiwn mae’r Bwrdd Iechyd yn ei ffafrio.
Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ym mis Tachwedd.