Fe fydd dau o bobl yn mynd gerbron llys fis nesaf ar ôl i fabi chwe mis oed gael ei ladd gan gi anghyfreithlon.

Bu farw Molly Mae Wotherspoon ôl  i’r ci  “pit bull” Americanaidd ymosod arni hi yn Daventry ar Hydref 3 y llynedd.

Mae Claire Riley, 23, mam Molly Mae wedi ei chyhuddo o drosedd o dan y Ddeddf Cŵn Peryglus o fod yn berchen ar gi peryglus a oedd allan o reolaeth, ac achosodd anaf i Molly Mae gan arwain at ei marwolaeth.

Mae Susan Aucott, 54, nain Molly Mae, hefyd wedi cael ei chyhuddo o’r un cyhuddiad.

Mae’r ddwy wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth a byddan nhw’n ymddangos gerbron Llys Ynadon Northampton ar 21 Medi.