Bydd yna ddigwyddiad yn cael ei gynnal ar Ynys Môn heddiw  i nodi undod gydag ardal Fukushima yn Japan ac atomfa niwclear Wylfa.

Ym mis Mawrth 2011 fe fu’n rhaid 160,000 o bobl adael eu cartrefi pan ffrwydrodd tri adweithydd yn Fukushima.

Fe fydd seremoni symbolaidd yn cael ei gynnal yn Nhregele heddiw  ger atomfa Wylfa  “fel arwydd o undod a chyfeillgarwch â’r 160,000 o ffoaduriaid ac i danlinellu peryglon ynni niwclear,” meddai’r mudiad gwrth niwclear PAWB.

Mae  PAWB wedi sefydlu gwersyll i wrthdystio yn erbyn adeiladu atomfa Wylfa newydd ar yr ynys . Ymhlith y rhai sy’n gwersylla mae’r ymgyrchydd iaith Angharad Tomos.

Fe fydd cynrychiolwyr o Japan yn cymryd rhan yn y digwyddiad.

‘Undod’

Ar ran PAWB, dywedodd Dr Carl Clowes:“Mae gefeillio Wylfa a Fukushima yn fynegiant o undod rhwng ein cymuned a’r gymuned yn Japan, fydd gobeithio yn helpu i ddeffro pobl a gwleidyddion yng Nghymru i beryglon y diwydiant hwn wrth iddyn nhw ymddangos fel petaent yn cerdded yn eu cwsg tuag at apocalyps posibl.

“Fel enghraifft o’u hymateb di-hid, gwelsom sawl ymweliad gan wleidyddion blaenllaw a swyddogion llywodraeth o Gymru â Japan sydd ar ôl teithio hanner ffordd ar draws y byd, heb gymryd amser i ymweld â’r ardaloedd a’r bobl a effeithiwyd gan ymbelydredd, gan adael eu hunain i gael eu twyllo i gredu popeth a ddywedwyd wrthynt fel gwesteion ar ymweliad a noddwyd gan Hitachi. Wrth adrodd y storïau nad yw Hitachi am eu dweud, rydym yn adfer cydbwysedd i’r ddadl.”

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Horizon sy’n adeiladu Wylfa newydd eu bod  yn “parchu hawl pobl i brotestio yn heddychlon.”