Fe fydd streic gan weithwyr First Great Western yn effeithio ar wasanaethau trên de Cymru fory (dydd Sul), wedi i drafodaethau fethu â setlo’r ffrae rhwng staff a rheolwyr.
Fe fydd aelodau undeb yr RMT (Rail, Maritime and Transport) yn cerdded allan am 24 awr, gyda streic arall wedi’i threfnu ar gyfer penwythnos Gwyl y Banc yr wythnos nesa’.
“Fe fydd trenau’n rhedeg, ond ar amserlen wahanol,” meddai llefarydd ar ran First Great Western. “Fe fydd 70% o’n trenau dydd Sul arferol yn rhedeg, ac fe ddylai teithwyr wneud yn siwr o’r amserlen newydd cyn cychwyn ar eu taith.”
Mae’r cwmni’n rhedeg trenau o Lundain i dde Cymru a gorllewin Lloegr, yn ogystal â threnau i ardaloedd Swydd Rhydychen a Berkshire.
Pam streicio?
Mae’r undeb yn honni y bydd trenau newydd gan FGW yn arwain at golledion swyddi a thoriadau i wasanaethau bwyd ar deithiau.
Ond mae First Great Western yn mynnu y bydd y trenau Super Express newydd yn cynnig mwy o seddi, teithiau cyflymach, a theithiau amlach – pethau y bydd cwsmeriaid yn eu croesawu.