Nicholas Lapping (Llun: Heddlu Gwent)
Mae lleidr wedi’i ddedfrydu i dreulio pum mlynedd yn y carchar am ymosod ar ddyn ddaeth i ateb y drws yn ei gartre’ ei hun yn Abertileri.

Fe aeth Nicholas Lapping, 32, amdano gyda morthwyl, ysgol a hwfer, ac ymosod arno. Fe fu’n rhaid iddo gael triniaeth yn yr ysbyty.

Fe blediodd Nicholas Lapping yn euog i ladrata yn Llys y Goron Caerdydd ddoe.

“Roedd hwn yn ymosodiad hynos o gas a ddigwyddodd yng nghartre’ dyn oedd yn byw ar ei ben ei hun,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gwent. Dylai pawb allu teimlo’n ddiogel ar ei diriogaeth ei hun.

“Roedd ymateb y diffynnydd yn greulon, a wnaeth e ddim meddwl am eiliad beth fyddai effeithiau ei weithredoedd ar y dioddefwr yn y tymor hir.”