Dwayne Peel
Mae gan Gymru “gyfle realistig” o ennill Cwpan Rygbi’r Byd yr hydref hwn, yn ôl cyn-fewnwr y tîm cenedlaethol Dwayne Peel a chwaraeodd yn y gystadleuaeth ddwywaith.

Dywedodd Peel, sydd yn chwarae i Fryste ac yn rhan o dîm cyflwyno S4C ar gyfer y twrnament, fod enillydd Cwpan y Byd yn debygol o ddod allan o’r grŵp heriol mae Cymru’n perthyn iddo.

Ac mae’r chwaraewr 33 oed, a enillodd 76 cap dros ei wlad, yn credu mai hon fydd y bencampwriaeth fwyaf agored ers blynyddoedd.

“Mae Grŵp A yn gosod tri o gewri’r byd rygbi, Lloegr, Cymru ac Awstralia yn erbyn ei gilydd ac mae’n bur debyg gall enillwyr y grŵp gael y momentwm i ennill y twrnamaint,” meddai Dwayne Peel.

Gobaith o ennill

Roedd Dwayne Peel yn rhan o garfan Cymru yng nghystadlaethau 2003 a 2007, ac eleni fe fydd yn rhan o’r tîm cyflwyno ar S4C fydd yn dangos holl gemau Cymru yn y gystadleuaeth.

Ac yn ôl y mewnwr, does dim rheswm pam na all Cymru fod yn hyderus eu bod wedi dysgu’r gwersi o 2011, pan gyrhaeddon nhw’r rownd gynderfynol, a mynd yr holl ffordd y tro hwn.

“Mae momentwm ac ysbryd o fewn y tîm yn allweddol mewn cystadleuaeth o’r fath yn enwedig o’r chwarteri ymlaen ac er mai Seland Newydd yw’r ffefrynnau ar hyn o bryd, bydd enillwyr Grŵp A wedi caledu yn y frwydr,” meddai Dwayne Peel.

“Gallan nhw fod yn her i’r Crysau Duon, a fydd dan lot fawr o bwysau fel ymhob Cwpan y Byd gan ei bod nhw’n cael eu hystyried yn ffefrynnau a hynny’n haeddiannol.

“Mae’n gystadleuaeth agored iawn eleni, a chyda Lloegr hefyd dan bwysau, mae gan Gymru gyfle realistig. Pam lai?

“Mae Cymru’n dîm all herio’r goreuon. Gall unrhyw un o chwe gwlad ennill, gydag Iwerddon, De Affrica ac Awstralia hefyd â chyfle da.”

Dysgu o siom

Yn ôl Dwayne Peel mae timau safonol a’r chwaraewyr gorau yn dysgu o’u siomedigaethau, a fydd hynny ddim yn wahanol i Gymru.

“Fe gollon ni i Loegr yn 2003 o ganlyniad i gais hwyr gan Jason Robinson. Ond i fod yn deg, roedden nhw’n haeddu ennill ac mi aethon nhw ‘mlaen i fod yn Bencampwyr y Byd,” meddai.

“Fe ddysgon ni o’r golled yna a dwy flynedd yn hwyrach fe aethon ni ‘mlaen i ennill y Gamp Lawn am y tro cyntaf ers 27 mlynedd.”

Ac mae’n hyderus bod y tîm presennol yn barod i wneud yr un peth â’u bwganod o 2011, pan gollwyd i Ffrainc yn y rownd gynderfynol gyda 14 o chwaraewyr ar ôl cerdyn coch eu capten Sam Warburton.

“Mae Sam Warburton wedi tyfu fel chwaraewr ar ôl y digwyddiad torcalonnus yna ac mae’n gapten o’r radd flaenaf,” meddai Dwayne Peel.

“Bydda i’n disgwyl i Scott Williams ddisgleirio nawr gan ei fod e fewn oherwydd anaf Jonathan Davies, a chyda arweinwyr naturiol fel Alun-Wyn Jones yn y tîm, mae Cymru’n her i unrhyw wlad.”

Sylwebu

Mae Dwayne, sy’n dad i ddau o blant ac yn byw nôl nawr yn ei hen ardal, Llanelli, ar ôl cael chwe blynedd yn chwarae i Sale Sharks ym Manceinion, bellach yn edrych ymlaen at “sylwebu ar dwrnamaint mor agos i adre”.

“Bydd croesi Pont Hafren i gemau yn Twickenham yn ogystal â Chaerdydd yn wefreiddiol,” meddai wrth edrych ymlaen at gystadleuaeth eleni.

“I chwaraewr rygbi, does ’na ddim anrhydedd o fwy na chynrychioli’ch gwlad yng Nghwpan y Byd. ‘Da chi’n mwynhau’r pwysau a’r nerfau, da chi’n cael blasu’r llwyddiannau a dysgu’r o’r methiannau, ond mae cael sylwebu ar y gemau ar S4C hefyd yn gyfle da.”