Mae Awstralia wedi enwi ei charfan ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd, gyda chapten y tîm yn 2011 James Horwill heb ei ddewis.
Bydd y Wallabies yn un o wrthwynebwyr Cymru mewn grŵp heriol sydd hefyd yn cynnwys Lloegr, Ffiji ac Uruguay.
Stephen Moore fydd capten tîm Awstralia wrth iddo baratoi ar gyfer ei drydydd Cwpan y Byd, tra bod Michael Hooper ac Adam Ashley-Cooper ill dau yn is-gapteiniaid.
Cafodd y garfan brofiadol o 31 chwaraewr ei henwi gan hyfforddwr Awstralia Michael Cheika heddiw, gydag 17 blaenwr ac 14 olwr gyda thros 1,200 o gapiau rhyngddyn nhw.
“Rydyn ni wedi dod yn grŵp agos ac roedd yn broses anodd iawn dewis dim ond 31 chwaraewr, ond rydw i’n gwybod y bydd pob un chwaraewr sydd wedi’i ddewis i deithio i Loegr yn gwneud hynny â chefnogaeth lawn y rheiny fydd ddim ar yr awyren,” meddai Michael Cheika.
Carfan Awstralia ar gyfer Cwpan y Byd
Blaenwyr – S Moore, T Polota-Nau, G Holmes, S Kepu, S Sio, J Slipper, T Smith, K Douglas, D Mumm, R Simmons, W Skelton, S Fardy, M Hooper, B McCalman, S McMahon, W Palu, D Pocock.
Olwyr – W Genia, N Phipps, Q Cooper, B Foley, K Beale, M Giteau, M Toomua, A Ashley-Cooper, I Folau, R Horne, D Mitchell, H Speight, J Tomane, T Kuridrani.