Liz Saville-Roberts
Mae neuadd gymunedol pentref Garndolbenmaen wedi ei hagor ar ei newydd wedd gan Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville-Roberts a Gerallt Pennant, cyflwynydd Heno ar S4C a Galwad Cynnar ar Radio Cymru.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae cymuned Garndolbenmaen wedi bod yn codi arian tuag at y gwaith o drawsnewid y neuadd.

“Pleser o’r mwyaf oedd cael agor y neuadd gymunedol yma ar ei newydd wedd, sy’n gaffaeliaid mawr i drigolion lleol, a chymuned ehangach Garndolbenmaen,” meddai Liz Saville-Roberts.

“Mae’n galonogol gweld cymaint o gydweithrediad yn y gymuned er mwyn sicrhau fod y neuadd yn ateb gofynion y gymuned leol,” ychwanegodd Liz Saville-Roberts.

“Mae’r neuadd ar ei newydd wedd yn destament i waith caled ac ymroddiad pobl leol sydd wedi rhoi o’u gwirfodd, eu hamser a’u hegni i sicrhau cwblhad y prosiect yma. Hoffwn estyn fy niolch hefyd i Bwyllgor y Sioe Flodau am roi mor hael i’r achos ac i Gyngor Gwynedd a Tir a Môr am eu cymorth gyda’r grantiau.”