Rhys Perkins (Llun: Heddlu Gwent)
Mae gyrrwr oedd wedi’i wahardd, ac a fu’n rasio trwy strydoedd ardal boblog ar gyflymder o fwy na 60 milltir yr awr, wedi’i anfon i’r carchar.

Fe gafodd Rhys Perkins ei ddal gan swyddogion Heddlu Gwent yn goryrru trwy rhai o strydoedd Casnewydd, a phan ddechreuon nhw ei ddilyn, fe roddodd ei droed i lawr a dechrau rasio.

Diwedd y stori oedd iddo fynd â’i gar yn syth i mewn i gar arall, gan anafu’r gyrrwr a’r teithiwr yn y car hwnnw.

Mae Rhys Perkins wedi’i ddedfrydu i ddeg mis o garchar, ac wedi’i wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd, a’r cyfnod hwnnw i ddechrau pan fydd yn cael ei ryddhau o’r jêl.