ZipClip (Llun: Busnes Cymru)
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd ffatri gwerth £2m yn cael ei hadeiladu yn Y Trallwng er mwyn helpu busnes o Bowys i dyfu.

Ar hyn o bryd mae cwmni Zip Clip, sydd yn creu systemau hongian gwifrau ar gyfer cwmnïau mecanyddol, yn cyflogi 30 o bobol ar safle yn Y Drenewydd.

Ond mae’r cwmni, a gafodd ei sefydlu yn 2004, wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd a bellach yn allforio i 22 o wledydd, ac felly’n gobeithio ehangu.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adeiladu ffatri newydd 17,500 troedfedd sgwâr ym Mharc Busnes Clawdd Offa yn Y Trallwng fydd wedyn yn cael ei phrydlesu i Zip Clip.

Cytundebau newydd

Mae cynnyrch Zip Clip wedi cael eu defnyddio ar nifer o brosiectau adeiladu ar draws y byd dros y ddegawd ddiwethaf, gan gynnwys Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain.

Mae’r cwmni wedi ennill sawl cytundeb yn ddiweddar yn Ewrop a’r Dwyrain Canol, ac felly’n gobeithio dyblu nifer eu gweithwyr dros y blynyddoedd nesaf.

“Bydd y safle newydd, sydd yn aros am ganiatâd cynllunio [gan Gyngor Sir Powys] yn sicrhau bod twf yn parhau yng Nghymru ac yn galluogi Zip-Clip i ddelio â’r galw cynyddol am ei chynnyrch, gan greu nifer o swyddi newydd yng nghanolbarth Cymru dros y pum mlynedd nesaf,” meddai Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Edwina Hart.

Hybu Sir Drefaldwyn

Cafwyd croeso hefyd i’r datblygiad gan yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Sir Drefaldwyn, Glyn Davies.

“Mae’r cyhoeddiad bod Llywodraeth Cymru yn mynd i adeiladu a phrydlesu ffatri newydd yn y Trallwng yn newyddion da nid yn unig i’r cwmni ei hun, ond i’r economi leol,” meddai Glyn Davies.

“Dw i wedi ymweld â Zip Clip ar sawl achlysur, a wastad wedi cael argraff dda o broffesiynoldeb ac uchelgais y cwmni, sydd wedi gyrru eu llwyddiant wrth gyrraedd sawl marchnad ryngwladol.”