Lawnt artiffisial - byddai glaswellt fel hyn yn costio mwy nag £20 y metr stwar
Mae Heddlu Gogledd Cymru’n chwilio am ladron anarferol yn Wrecsam.

Roedden nhw wedi dwyn lawnt artiffisial gwerth cannoedd o bunnoedd o ardd ffrynt tŷ yn y dref.

Mae’n ymddangos bod y lawng 90 metr sgwâr wedi cael ei rolio a’i chymryd o’r ardd yn Ffordd Bersham.

Fe ddigwyddodd hynny ryw dro rhwng 11 fore Mawrth a’r un amser fore ddoe ac mae’r heddlu’n apelio am dystion.