Fe blediodd Claudiu Strungaru yn euog i dreisio a cheisio ymosod (Llun: Heddlu Dyfed Powys)
Mae dyn wedi’i ddedfrydu i naw mlynedd o garchar, am dreisio ac am geisio ymosod ar wraig yng nghanol tre’ Caerfyrddin.
Daethpwyd o hyd i’r ddioddefwraig ym mynwent Eglwys Dewi Sant, Caerfyrddin, ben bore Awst 4, 2015.
Fe blediodd Claudiu Strungaru, 29 oed, o Dreioan yn euog gerbron Llys y Goron Abertawe, ac fe’i dedfrydwyd yn syth bin i dreulio naw mlynedd yng ngharchar.