Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio am dystion yn dilyn damwain ddifrifol ger y Fflint neithiwr.
Cafodd dyn 35 oed ei arestio ar amheuaeth o yfed a gyrru ar ôl gwrthdrawiad rhwng ei gar Rover ef a char Citroen Saxo am 11yh nos Fawrth.
Cafodd un teithiwr yn y Citroen Saxo ei gludo i Ysbyty Iarlles Caer gydag anafiadau difrifol yn dilyn y ddamwain ar y B5129 yn Kelsterton, Fflint.
Mae’r dyn gafodd ei arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus ac yfed a gyrru yn dal i fod yn y ddalfa, ond mae’r ffordd bellach wedi cael ei hailagor yn dilyn y ddamwain.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gofyn i unrhyw un oedd yn dyst i’r ddamwain gysylltu â nhw ar y rhif 101.