Mae’r paffiwr pwysau ysgafn Joe Cordina wedi ennill medal aur ym Mhencampwriaethau Paffio Ewrop ym Mwlgaria.
Curodd y Cymro Otar Eranosyan o Georgia ar bwyntiau i gipio’r fedal.
Mae’r fedal ddiweddaraf yn cael ei hychwanegu at y fedal efydd enillodd Cordina yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow y llynedd.
Roedd medalau arian i bedwar arall o baffwyr Prydain – Harvey Horn, Muhammad Ali, Qais Ashfaq a Pat McCormack.