Mae’r IAAF, y corff sy’n rheolau athletau, wedi cael eu cyhuddo o atal astudiaeth oedd yn datgelu defnydd o gyffuriau ymhlith athletwyr.

Cafodd yr astudiaeth ei threfnu gan Brifysgol Tubingen yn yr Almaen yn 2011, ac roedd traean o’r ymatebwyr wedi cyfaddef eu bod nhw wedi cymryd cyffuriau.

Rhoddodd yr IAAF bwysau ar awduron yr astudiaeth i beidio trafod yr atebion, yn ôl papur newydd y Sunday Times.

Cafodd yr atebion eu rhoi gan athletwyr oedd yn cystadlu ym mhencampwriaethau’r byd yn Ne Corea.

Roedd 29-34% o’r 1,800 o athletwyr a roddodd atebion wedi defnyddio cyffuriau er mwyn gwella’u perfformiad yn ystod y flwyddyn gynt.

Cafodd yr ymchwil ei ariannu gan asiantaeth profi cyffuriau WADA.

Dywed yr IAAF fod y trafodaethau ynghylch cyhoeddi’r canlyniadau ar y gweill.