Mae Amgueddfa Cymru’n dweud eu bod nhw’n siomedig ynghylch penderfyniad aelodau undeb PCS i streicio.
Mae trafodaethau rhwng yr Amgueddfa a’r gweithwyr ynghylch taliadau premiwm yn parhau, ac maen nhw’n dweud eu bod yn gobeithio dod i gytundeb yn fuan.
Mae’r streic yn effeithio ar Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa’r Glannau, Amgueddfa Werin Cymru, Big Pit a’r Amgueddfa Lleng Rufeinig.
Dywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru: “Bydd sawl un o’n Hamgueddfeydd yn parhau ar agor i ymwelwyr, ond rydym yn annog unrhyw un fydd am ymweld â’n Hamgueddfeydd i fynnu’r wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan cyn teithio.
“Rydym wedi rhoi cynnig gwell gerbron PCS ac mae’r undeb yn ei ystyried ar hyn o bryd. Dyma’r gorau y gallwn ni gynnig o ystyried yr adnoddau ariannol sydd gennym, sydd wedi crebachu dros 20% yn y blynyddoedd diwethaf.”
Mae cynnig yr Amgueddfa i’w gweithwyr yn cynnwys:
– £300 ychwanegol i bob aelod o staff sydd wedi cael ei effeithio
– Iawndal o £3,600 y pen ar gyfartaledd
– 6% o gynnydd mewn tâl sylfaenol yn lle 4%
– Cyflog Byw – o leiaf £7.85 – i’r holl staff
Ychwanegodd yr Amgueddfa: “Fel y mwyafrif o gyrff cyhoeddus, rydym yn gweithredu o fewn cyllideb gyfyngedig ac yn cael ein gorfodi i gynllunio ar gyfer rhagor o doriadau.
“Felly, nid oes dewis gennym ond cael gwared ar y Taliadau Premiwm, sydd yn costio rhyw £800,000 y flwyddyn i’r Amgueddfa ar hyn o bryd.
“Mae ein staff yn bwysig iawn i ni. Rydym am amddiffyn swyddi cymaint â phosib yn unol â’r adnoddau sydd gennym. Nid yw diswyddiadau gorfodol yn rhan o’r cynnig hwn ac nid ydym yn ystyried gwasanaethau contract allanol ar hyn o bryd.”
Manylion y streic
Dydd Mercher 19 Awst 2015 – Amgueddfa Lechi Cymru ar gau.
Dydd Mercher 19 Awst 2015 – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ond
mae’n bosibl y bydd rhai orielau ar gau.
Dydd Iau 20 Awst 2015 – Amgueddfa Wlân Cymru ar gau.
Dydd Iau 20 Awst 2015 – Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar gau.
Dydd Iau 20 Awst 2015 – Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar agor
ond mae’n bosibl y bydd rhai adeiladau ar gau.
Dydd Sadwrn 22 Awst 2015 – Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ar gau.
Dydd Sul 23 Awst 2015 – Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ar gau.
Dydd Sadwrn 29 Awst 2015 – Bydd Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru,
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Wlân Cymru ar gau.
Bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan ar agor ond mae’n bosibl y bydd rhai orielau neu adeiladau ar gau.
Bydd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ar agor.
Dydd Sul 30 Awst 2015 – Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ar gau.
Dydd Llun 31 Awst 2015 – Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ar gau.