Ffatri ganabis
Mae Heddlu De Cymru’n annog landlordiaid i gadw llygad am ffatrïoedd canabis yn ardal Merthyr Tudful.
Ar ôl i hyd at chwech ffatri o’r fath gael eu ffeindio yn ystod hanner cynta’ eleni, mae’r heddlu’n dweud wrth berchnogion tai rhent am fod yn ofalus.
Mae rhai landlordiaid wedi dioddef niwed sylweddol i’w heiddo wrth i’w tai gael eu troi’n llefydd i dyfu’r planhigion cyffur.
Mae’r difrod yn cynnwys waliau a nenfydau’n chwalu a dŵr yn gôr lifo.
‘Trychinebus’
“Mae’r goblygiadau i landlordiaid, yn ariannol ac yn gyfreithiol, yn gallu bod yn drychinebus,” meddai’r Ditectif Inspector Dinlle Francis.
“Fe fyddwn i’n annog landlordiaid i djecio pwy yw pobol gan wastad fynnu cael ID ffotograffig, a geirda yn ogystal â manylion car.
“Byddwch hefyd yn wyliadwrus o bobol sydd eisiau symud i mewn yn sydyn a thalu mewn arian parod yn unig.”
Ymhlith yr arwyddion bod ffatri ganabis gerllaw mae aroglau cryf, pobol yn mynd a dod bob awr o’r dydd a ffenestri cynnes.