Jeremy Corbyn (Garry Knight CCA 2.0)
Mae’r ffefryn am arweinyddiaeth y Blaid Lafur wedi dweud bod angen gwell cysylltiadau rheilffordd yng Nghymru, gan gynnwys gwell cysylltiadau rhwng  y De a’r Gogledd.

Mewn cyfweliadau ar ôl cyfarfod cyhoeddus o flaen tua 1,000 o bobol yng Nghaerdydd neithiwr, fe ddywedodd Jeremy Corbyn fod angen rhagor o adnoddau i wella rheilffyrdd a ffyrdd yng Nghymru.

Fe alwodd hefyd am ragor o bwerau economaidd i’r Llywodraeth ym Mae Caerdydd.

‘Gwell economi – angen gwell isadeiledd’

“Mae yna broblemau gydag isadeiledd,” meddai Jeremy Corbyn. “Os ydych chi eisiau gwell economi diwydiannol, mae’n rhaid i chi gael gwell isadeiledd.”

Roedd ei bwyslais ar wella rhagor o reilffyrdd – yn ychwanegol at drydaneiddio prif lein y De a rheilffyrdd y Cymoedd – ac ystyried ailagor yr hen lein rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.

Ddoe oedd ail ddiwrnod ymweliad Jeremy Corbyn â Chymru ac yntau’n dal i fod yn gadarn ar y blaen yn ras yr arweinyddiaeth yn y dyddiau ola’ cyn i bleidleisiau ddechrau.