Mae Heddlu De Cymru yn apelio am lygad dystion wedi damwain angheuol yn Rhymni, Caerdydd, ddiwedd pnawn ddoe.

Fe ddigwyddodd y ddamwain yn Rhodfa Wentloog toc wedi 5yp, ac roedd dau feic moped a lori yn rhan o’r ddamwain.

Fe aeth un o’r beiciau modur ysgafn benben â’r lori, a bu’r reidiwr farw ar ol diodde’ anafiadau difrifol iawn.

Byddai Heddlu De Cymru yn hoffi siarad ag unrhyw un a welodd y ddamwain, neu a welodd y ddau feic moped yn union cyn y gwrthdrawiad.