Mae Heddlu Gwent  yn apelio am wybodaeth er mwyn ceisio dod o hyd i ddyn 26 oed o Gasnewydd sydd wedi torri amodau ei drwydded ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar ym mis Ionawr eleni.

Cafodd Phillip Coates ei ddedfrydu i dair blynedd am dwyllo, a hynny yn Llys y Goron Caerdydd yn Nhachwedd 2013. Oherwydd iddo dorri amodau’r drwydded, mae Phillip Coates i fod i gael ei yrru’n ôl i’r carchar i gwblhau ei ddedfryd.

Dywedodd Heddlu Gwent bod ganddo gysylltiadau yn ne Cymru yng Nghasnewydd, Cwmbrân a Blaenau Gwent.