Mae Heddlu De Cymru’n apelio am dystion ar ôl i yrrwr gael ei ladd wrth i’w gar droi drosodd ar gyrion Caerdydd yn oriau mân y bore.

Cafodd y tri theithiwr yn y car eu hanafu yn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd tua 2.50 y bore yma ar Heol y Fforest, Tongwynlais.

Aed â nhw i Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd, ac mae dau ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.

Roedd  Renault Clio glas yn teithio ar hyd y Heol y Fforest pan drodd drosodd, a hoffai’r heddlu siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a welodd y car ychydig ynghynt.

Fe fu’r ffordd ar gau am tua phedair awr wrth i’r heddlu ymchwilio i’r digwyddiad.

Maen nhw’n gofyn i unhryw un â gwybodaeth gysylltu ar 02920 633438 neu 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.