Bydd dod a’r Eisteddfod Genedlaethol i Sir Fynwy yn gyfle arbennig i ailfeddiannu’r iaith Gymraeg yn y sir, yn ôl prif weithredwr y cyngor.
Heddiw bu swyddogion o Gyngor Sir Fynwy yn ymweld â maes y Brifwyl ym Meifod wrth baratoi i groesawu’r Eisteddfod i’r Fenni y flwyddyn nesaf.
Ac yn ôl prif weithredwr y cyngor, Paul Matthews, bydd denu’r ŵyl i dde ddwyrain Cymru yn gyfle i adfywio’r Gymraeg yn un o’i hardaloedd gwanaf.
“Rydyn ni eisiau iddi fod yn Eisteddfod i’r sir gyfan, a gobeithio y bydd yn fodd o ailfeddiannu’r iaith yn yr ardal,” meddai Paul Matthews.
Dros ganrif
Dyw’r Eisteddfod heb ymweld â Sir Fynwy ers y tro diwethaf yr oedd hi yn Y Fenni dros ganrif yn ôl, yn 1913.
Serch hynny, mae Paul Matthews yn hyderus y bydd pobl y sir yn barod i estyn croeso cynnes i ymwelwyr a chynnal gŵyl o’r safon uchaf.
“Rydyn ni fel Cyngor Sir yn gyffrous iawn i gynnal yr Eisteddfod, dyw e heb fod yma yn Sir Fynwy ers dros 100 mlynedd. Rydyn ni’n falch iawn o’n cenedl ac fe fyddwn ni’n estyn croeso cynnes iawn iddo,” meddai.
“Mae cymunedau Sir Fynwy hefyd yn gyffrous iawn yn barod ac yn awyddus iawn i fod yn rhan o bethau.
“Mae beth sy’n digwydd yma [ym Meifod] wir yn wych, ac fe fyddwn ni’n gwneud popeth allwn ni i sicrhau fod ein un ni mor arbennig â phosib.
“Dw i’n meddwl y gwnewch chi fwynhau beth sydd gennym ni i’w gynnig. Rydyn ni’n brifddinas ar fwyd ac ar seiclo yng Nghymru, ac fe hoffwn ni fod yn brifddinas i ddiwylliant hefyd.
“Rydyn ni eisiau cynnal gŵyl mor arbennig ac y mae hi erioed wedi bod.”