Alun 'Sbardun' Huws (llun: BBC Cymru)
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cynnal cystadleuaeth gyfansoddi newydd er cof am Alun ‘Sbardun’ Huws.
Bu farw’r cerddor poblogaidd, oedd yn un o aelodau gwreiddiol Tebot Piws, llynedd yn 66 oed.
Bydd cystadleuaeth arbennig yn cael ei chynnal o Eisteddfod Sir Fynwy 2016 ymlaen i gofio amdano, gyda thlws a gwobr o £500 wedi’i roi gan Gwenno Huws i’r enillydd.
Mae disgwyl i gystadleuwyr gyfansoddi cân wreiddiol ac acwstig ei naws, wedi’i chyflwyno ar gryno-ddisg neu MP3.
Beirniaid y gystadleuaeth fydd Emyr Huws Jones a Bryn Fôn, ac mae’r Eisteddfod yn gobeithio gweld y gân fuddugol yn cael ei pherfformio yn y Brifwyl y flwyddyn nesaf.