Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ystyried gwneud heb y Maes traddodiadol pan fydd hi’n ymweld â’r brifddinas yn 2018.

Ar hyn o bryd mae’r trefnwyr yn trafod cynnal y brifwyl mewn adeiladau yng nghanol Caerdydd, yn hytrach nag ar un safle dros dro.

Bydd penderfyniad terfynol ar y mater fis Tachwedd, ac mae trafodaethau yn parhau rhwng yr Eisteddfod a Chyngor Caerdydd.

Mi fyddai hepgor y Maes – sy’n cynnwys pafiliwn y prif gystadlaethau yn ogystal â stondinau, siopau, llefydd bwyta, sawl llwyfan perfformio, Y Lle Celf a’r Babell Lên – yn torri cwys newydd yn hanes yr Eisteddfod.

“Does neb wedi gwneud hyn o’r blaen, er bod y syniad wedi cael ei grybwyll gan sawl un,” meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, wrth y BBC.

“Caerdydd yw’r lle i drio hyn.”