Osian Williams yn derbyn Tlws y Cerddor
Mae hi wedi bod yn Eisteddfod “swreal” i un o gerddorion amlycaf Cymru sydd wedi bod yn brysur tu hwnt dros yr wythnos ddiwethaf.
Nos Fercher cafodd Osian Huw Williams ei anrhydeddu ar lwyfan y Pafiliwn fel enillydd Tlws y Cerddor eleni, a hynny am gyfansoddi darnau ar gyfer sioe gerdd.
Ar ôl gorfod cadw’r peth yn ddistaw am wythnosau, mae’r cerddor bellach yn falch o allu mwynhau’r llwyddiant gyda’i deulu a’i ffrindiau.
Mwy i ddod
Dydi ei wythnos o ddim ar ben eto fodd bynnag – fel prif leisydd Candelas, mae ganddo’r mater bach o gloi gig fawr nos Sadwrn dal i ddod!
“Mae’r Eisteddfod wedi bod yn swreal hyd yn hyn,” meddai Osian Williams wrth Golwg360.
“Ro’n i’n rhan o sioe Gwydion nos Wener ac yn drymio i hwnna, ro’n i’n gwybod yn amlwg bod hwn ganol wythnos, a ’da ni [Candelas] yn gorffen Maes B nos Sadwrn, felly bydd hi’n annodd topio’r Steddfod yma mae’n siŵr.”
Gwyliwch y sgwrs ag Osian Candelas yma: