Wyn Mason, enillydd y Fedal Ddrama
Wyn Mason, sy’n wreiddiol o Lanfarian ger Aberystwyth yw enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau eleni.

Cafodd ei anrhydeddu mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn heddiw.

Y ddrama lwyfan fuddugol, Rhith Gân, yw ymdrech gyntaf y darlithydd ffilmio a sgriptio a chyfarwyddwr ar ysgrifennu sgript theatr.

Dywedodd y beirniaid bod ganddo “lais theatrig unigryw a chynhyrfus.”

Wyn Mason yn trafod y gwaith buddugol â Golwg360:

Cefndir

Ar ôl astudio Celf Gain yng Nghaerwysg ac yna yng Nghaerdydd dechreuodd weithio ym maes teledu, lle bu’n llawrydd am dros 15 mlynedd, gan weithio fel sgriptiwr a chyfarwyddwr rhaglenni dogfennol yn cynhyrchu rhaglenni ar gyfer S4C, BBC a Channel 4.

Rhyw 10 mlynedd yn ôl cymerodd swydd fel darlithydd ffilmio a sgriptio ym Mhrifysgol De Cymru. Canolbwyntiodd ar greu ffilmiau byrion arbrofol a wthiai ffiniau’r cyfrwng mewn gwahanol ffyrdd cyn cyhoeddi erthyglau academaidd am y gwaith.

Yn 2012-13 mynychodd gwrs cyfarwyddo theatr a drefnwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru, Sherman Cymru a Living Pictures, o dan hyfforddiant Elen Bowman.  Y darn theatr cyntaf iddo’i gyfarwyddo oedd Gwagle, sef drama fer gan Branwen Davies a lwyfannwyd yng Nghaerdydd fel rhan o gynhyrchiad Rhwng Dau Fyd.

Mae’r Fedal Ddrama yn cael ei chyflwyno am ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd.  Gwobrwyir y ddrama sy’n dangos yr addewid mwyaf ac sydd â photensial i’w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol.

Mae Wyn Mason yn derbyn Y Fedal Ddrama (er cof am Urien Wiliam, rhoddedig gan ei briod Eiryth a’r plant, Hywel, Sioned a Steffan) a £750 (Cronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli).

‘Unigryw a chynhyrfus’

Y beirniaid eleni oedd Iola Ynyr, Betsan Llwyd ac Ian Rowlands.  Traddodwyd y feirniadaeth o’r llwyfan gan Betsan Llwyd, a dywedodd, “Daeth pymtheg ymgais i law a’n tasg ni fel beirniaid oedd dewis y dramâu oedd yn ein cyffroi ni fwyaf fel ymarferwyr proffesiynol.

“Yr hyn a liwiodd ein barn a’n penderfyniadau, felly, oedd yr awydd i brofi lleisiau newydd, neu yr addewid o leisiau newydd, ym myd y theatr Gymraeg, heb anghofio adnabyddiaeth a dealltwriaeth sylfaenol o hanfodion drama lwyfan lwyddiannus.

“Mae Carn Menyn yn llais theatrig unigryw a chynhyrfus.  Drama gysyniadol yw ‘Rhith Gân’, sy’n cyd-fynd â chaneuon Gareth Bonello o’r albwm ‘Y Bardd Anfarwol’. Mae yma arbrofi cyffrous o ran confensiwn llwyfannu o ran arddull ac adeiladwaith, gan daflu’r darllenydd oddi ar ei echel yn barhaus.

“Mae’r cymeriadau mwy traddodiadol yn gwrthod cydymffurfio â’r hyn sy’n ddisgwyliedig, ac mae presenoldeb Li Bai, y bardd Tsieineaidd o’r 8fed ganrif, sy’n llifo trwyddi, yn rhoi arlliw swreal a rhyngwladol i’r ddrama. O ddatblygu’r gwaith ymhellach, nid oes gennym amheuaeth na fyddai ‘Rhith Gân’ yn cyflwyno profiad theatrig ysgytwol.”