'Gyrru Drwy Storom' wedi'i chyhoeddi gan wasg Y Lolfa
Fe fydd cyfrol yn cael ei lansio ar faes yr Eisteddfod heddiw sydd yn cynnwys profiadau nifer o Gymry amlwg yn trafod salwch meddwl.

Bwriad y gyfrol Gyrru Drwy Storom, sy’n cael ei chyhoeddi gan y Lolfa, yw ceisio chwalu’r stigma o siarad am broblemau iechyd meddwl.

Ymysg y rheiny sydd wedi cyfrannu at y gyfrol, a olygwyd gan Alaw Griffiths, mae Llŷr Huws Gruffydd, Caryl Lewis, Geraint Hardy, Malan Wilkinson, Hywel Griffiths, Bethan Jenkins, Angharad Gwyn, Angharad Tomos, Iwan Rhys a Dr Mair Edwards.

Mae rhai yn trafod eu profiadau personol nhw o ddelio â salwch meddwl, tra bod eraill yn trafod eu profiadau â theulu a ffrindiau.

‘Cyfrol i bawb’

Mae un o bob pedwar oedolyn yn dioddef o salwch meddwl, allai fod er enghraifft yn bump neu chwech o chwaraewyr mewn sgwad rygbi, neu 15 o’r 60 Aelod Cynulliad.

Yn ôl Alaw Griffiths mae’r gyfrol yn fodd o godi gobeithion y rheiny sydd yn dioddef o salwch meddwl yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth pobl ynglŷn â’r cyflwr.

“Cyfrol i bawb yw hon. Mae llawer iawn ohonom yn dod i gyswllt â salwch meddwl mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, yn ddioddefwyr ein hunain neu yn nabod aelod o’r teulu neu ffrind sydd yn dioddef,” medai Alaw Griffiths.

“Pan oeddwn i’n sâl roedd hi’n anodd iawn cael trafod salwch meddwl yn y Gymraeg a dwi’n meddwl bod cael trafod materion iechyd yn eich mamiaith yn hanfodol ar gyfer gwella.

“Nid cyfrol drist yw hon ond cyfrol llawn gobaith, oherwydd mae pob storm yn dod i ben ac mae’r straeon yma yn dangos bod hi’n bosib gwella.”